Gair amdanom ni
Mae Camau Bach am Oes yn rhaglen hwyliog ac iddi nod bwysig - sef helpu i annog
a chefnogi newid hirdymor mewn agwedd ac ymddygiad pobl ifanc ledled y DU.
Bydd Camau Bach am Oes yn helpu i gymell pobl ifanc i gymryd camau bach i wella
eu hiechyd a'u lles drwy gyfrwng heriau ymarferol yn ymwneud â bwyta'n iach,
cadw'n heini a theimlo'n dda.
Caiff y rhaglen ei harwain gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sef adran annibynnol
o'r Llywodraeth, a sefydlwyd gan Ddeddf Seneddol yn 2000 i ddiogelu iechyd y cyhoedd
a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.
Mae Camau Bach am Oes wedi esblygu o gynllun peilot ymchwil a gomisiynwyd gan yr
ASB ac a ddatblygwyd gan Fiwro Cenedlaethol y Plant. Cafodd ei ddarparu mewn partneriaeth
â Rhaglen Ysgolion Iach Caint a Chyngor Sir Caint. Cynhaliwyd y peilot mewn
6 ysgol yng Nghaint yn ystod mis Chwefror 2008.
Mae Camau Bach am Oes yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc ac ysgolion i ymwneud
â Newid am Oes a Bydd Barod, sef rhaglen addysg swyddogol Llundain 2012.
Newid am Oes
Mae Camau Bach am Oes yn rhan o Newid am Oes, sef rhaglen genedlaethol sydd â'r
nod o helpu teuluoedd i fwyta'n iach, symud mwy a byw'n hirach. Mae miloedd o deuluoedd
eisoes yn gwneud newidiadau a fydd yn eu helpu i fyw bywydau iachach, mwy bodlon.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan, ewch i www.nhs.uk/Change4Life/
Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012
Mae pobl ifanc ledled y DU eisoes yn dod yn rhan o Gemau Llundain 2012 drwy ddysgu
am y gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Mae Camau Bach am Oes yn arwain y ffordd
gydag elfen 'ffyrdd o fyw'n iach ac egnïol' Bydd Barod - rhaglen addysg Llundain
2012. Mae wedi'i gydnabod yn brosiect rhagorol, a fydd yn rhan ganolog o'r gwaith
o gyflwyno etifeddiaeth barhaus y Gemau.
Bydd Barod - y daith i Gemau Llundain 2012
Bydd Barod yw enw rhaglen addysg swyddogol Llundain 2012. Wrth galon y rhaglen,
mae gwefan arbennig sy'n cynnwys amrywiaeth o adnoddau hyblyg i blant 3-19 mlwydd
oed. Mae Bydd Barod yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ledled y DU ddysgu am y
gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd a chael bod yn rhan o Gemau 2012
Ewch ymhellach - dysgwch fwy
Mae Llundain 2012 yn cydweithio â phartneriaid gan gynnwys yr Asiantaeth Safonau
Bwyd i ddatblygu adnoddau - megis Camau Bach am Oes - sy'n ymdrin ag wyth thema
allweddol: rhyngwladoliaeth, cyfathrebu, cydweithrediad a dinasyddiaeth, dysgu ymarferol,
addysg gorfforol a chwaraeon, menter, cynaliadwyedd ac adfywio, diwylliant a chreadigrwydd
a ffyrdd o fyw'n iach ac egnïol.
Bydd yr adnoddau hyn yn eich cefnogi chi a phobl ifanc ledled y wlad i fynd ymhellach
a dysgu mwy am Gemau Llundain 2012.
Cofrestrwch heddiw i fod yn rhan ohono yn: www.london2012.com/getset
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithio ledled y DU gyda phartneriaid 'ffyrdd
o fyw'n iach ac egnïol' Bydd Barod i gyflwyno Camau Bach am Oes.
Gweler y dudalen partneriaid i gael rhagor o wybodaeth >