Logiwch ar y safle i weld mwy o wybodaeth

Hygyrchedd

Rydym yn ymrwymo i gynnig gwefan sy'n hygyrch i bob un o'n defnyddwyr ac mae gennym raglen barhaus ar waith i ddiweddaru a gwella'r wefan. Rydym eisoes wedi cyflwyno nifer o welliannau i'n gwefan yn unol â chanllawiau gan Fenter Hygyrchedd y We (WAI) a byddwn yn parhau i ddiweddaru'r wefan dros amser.

Llywio heb lygoden

Yn gyffredinol, ni argymhellir llywio heb lygoden gan ei fod yn gwrthdaro â'r dechnoleg gynorthwyol. Er hyn, rydym wedi penderfynu defnyddio'r allwedd '0' i ddod â chi i'r dudalen hon yn unig.

I lywio heb lygoden ar systemau Microsoft Windows, cadwch eich bys ar yr allwedd 'ALT' a'r allwedd llywio priodol. Ar systemau Macintosh, defnyddiwch yr allwedd CTRL yn lle hynny.

Maint y testun

Gallwch newid maint y testun ar ein gwefan i'w wneud yn fwy neu'n llai drwy gyfrwng gosodiadau eich porwr. Mae ambell i borwr yn eich galluogi i wneud y dudalen gyfan yn fwy. I newid maint y ffont, dilynwch y cyfarwyddiadau isod gan ddibynnu ar ba fath o borwr yr ydych chi'n ei ddefnyddio:

Internet Explorer

  • Cliciwch ar 'View' i agor y fwydlen 'View' neu daliwch eich bysedd ar 'Alt' a 'V'
  • Dewiswch yr opsiwn 'Text Size' neu gallwch ei ddewis drwy bwyso 'X'
  • Dewiswch y maint ffont a fyddai orau gennych drwy ddefnyddio eich llygoden neu ddefnyddio'r saethau 'fyny' a 'lawr' ar eich bysellfwrdd
  • Cliciwch i ddewis maint neu gallwch bwyso 'Enter'
  • Dylai maint y ffont newid i adlewyrchu eich dewis

Firefox

  • Cliciwch ar 'View' i agor y fwydlen 'View'
  • Dewiswch yr opsiwn 'Text Size'
  • Dewisiwch 'Increase' neu 'Decrease'
  • Dylai'r ffont ar ein gwefan newid i adlewyrchu eich dewis

Safari

  • Cliciwch ar 'View' i agor y fwydlen 'View'
  • Cliciwch ar 'Make Text Bigger' neu 'Make Text Smaller' neu defnyddiwch y llwybr byr ar eich bysellfwrdd
  • Dewisiwch 'Apple' a '+' (plws) neu 'Apple' a '-' (minws)
  • Dylai'r ffont ar ein gwefan newid i adlewyrchu eich dewis

Penawdau a theitlau cyson

Rydym wedi defnyddio strwythur penawdau cyson fel bod yr wybodaeth yn cydweddu â thechnoleg cyrchu.

Cyferbynnu lliwiau

Rydym wedi bod yn ofalus i sicrhau bod lliwiau tu blaen a chefndir y wefan yn cyferbynnu'n effeithiol. Os ydych am ei newid, gallwch wneud hyn drwy newid gosodiadau eich porwr.

Testun amgen ar gyfer graffeg

Mae'r holl graffeg a'r lluniau yn cynnwys 'alt tags' disgrifiadol (testun amgen). Lle nad yw llun yn bwysig, mae'r 'alt tag' wedi'i osod ar nwl i wneud y wefan yn haws i ddefnyddwyr ei darllen.

Cynnwys amgen ar gyfer fideos

Mae gan bob fideo drawsgrifiadau, a gellir eu lawrlwytho o dan bob fideo ar y wefan.

Dolenni disgrifiadol

Mae pob un o'r dolenni wedi'u hysgrifennu i wneud synnwyr pan gânt eu tynnu o'u cyd-destun. Lle bo'n briodol, rydym hefyd wedi ychwanegu gwybodaeth i nodi a fydd y ddolen yn agor mewn ffenest newydd neu os oes angen meddalwedd ychwanegol i weld y cynnwys.

Porwyr

Mae'r porwyr canlynol wedi'u profi i weld a ydynt yn cydweddu:

  • Internet Explorer (Windows) v8.0, v7.0 a v6.0
  • Firefox (Windows a Mac) v3.0 a v2.0
  • Safari (Mac) v2.0

Cofrestrwch gyda ni

Dewch yn rhan o deulu Camau Bach am Oes, a mwynhau'r wefan gyflawn yn 2010!