Logiwch ar y safle i weld mwy o wybodaeth

Hawlfraint y Goron

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn un o gyrff y Goron. Mae'r wybodaeth a gaiff ei chreu gennym wedi'i hamddiffyn gan Hawlfraint y Goron, a weinyddir gan Lyfrfa Ei Mawrhydi. Mae'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys ar y wefan hon yn cael ei hamddiffyn gan Hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Cewch ailddefnyddio deunydd a warchodir gan Hawlfraint y Goron (nid yw hyn yn cynnwys yr Arfau Brenhinol a logos asiantaethau neu adrannau eraill) yn rhad ac am ddim ar unrhyw ffurf at ddiben ymchwil anfasnachol, astudiaeth breifat neu i'w gylchredeg yn fewnol yn eich sefydliad. Mae'n rhaid cydnabod bod y deunydd yn cael ei warchod gan Hawlfraint y Goron gan nodi teitl a ffynhonnell y ddogfen/cyhoeddiad.

Mae hyn yn amodol ar y deunydd yn cael ei atgynhyrchu yn gywir ac nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.

Rhyddid gwybodaeth

Nid yw darparu gwybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi hawl awtomatig i unigolyn neu sefydliad ailddefnyddio'r dogfennau mewn ffordd a fydd yn torri hawlfraint, er enghraifft, drwy wneud mwy nag un copi, cyhoeddi neu ryddhau copïau i'r cyhoedd.

Gwnewch gais am Drwydded 'Click-USE PSI' os ydych am wneud defnydd gwahanol o'r deunydd.

Swyddfa Gwybodaeth y Sector Gyhoeddus

Tîm Polisi Gwybodaeth
Richmond
Surrey
TW9 4DU
e-bost: licensing@opsi.gov.uk
www.opsi.gov.uk

Logos a delweddau

Os ydych am gopïo logos neu ddelweddau oddi ar y wefan hon, rhaid i chi gysylltu â'r Asiantaeth Safonau Bwyd i gael rhagor o gyngor ac i gael eich awdurdodi i wneud hynny, drwy anfon e-bost at ss4l@dh.gsi.gov.uk

Marc Ysbrydoli Llundain 2012

O dan drwydded Pwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd Llundain, dyfarnwyd hawl i'r Asiantaeth Safonau Bwyd ddefnyddio'r Marc Ysbrydoli ar gyfer Camau Bach am Oes. Mae gwybodaeth bellach am Farc Ysbrydoli Llundain 2012 ar gael drwy'r ddolen hon www.london2012.com/get-involved/.

Hawlfraint trydydd parti

Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan y Goron yn ymestyn i'r deunydd arall ar y wefan hon sy'n destun hawlfraint trydydd parti. Rhaid ceisio caniatâd i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan ddeiliaid perthnasol yr hawlfraint.

Gwybodaeth bellach

I gael rhagor o wybodaeth am bolisi hawlfraint y Goron a threfniadau trwyddedu, trowch at y canllawiau a nodir ar wefan OPSI - www.opsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2009

Cofrestrwch gyda ni

Dewch yn rhan o deulu Camau Bach am Oes, a mwynhau'r wefan gyflawn yn 2010!