Logiwch ar y safle i weld mwy o wybodaeth

Polisi preifatrwydd

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd ("Ni") yn ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.

Mae'r polisi hwn (ynghyd â'n telerau defnyddio ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt ynddo) yn amlinellu ar ba sail y bydd unrhyw ddata personol a gasglwn gennych, neu a ddarperir gennych, yn cael ei brosesu gennym. Cofiwch ddarllen y canlynol yn ofalus i ddeall ein safbwynt a'n harferion mewn perthynas â'ch data personol a sut y byddwn yn ymdrin ag ef.

At ddibenion Deddf Diogelu Data 1998 (y Ddeddf), yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy'n rheoli'r data.

Pa wybodaeth a gesglir gennych?

Mae'n bosibl y byddwn yn casglu a phrosesu'r data canlynol amdanoch:

  • Gwybodaeth a ddarperir gennych wrth i chi lenwi ffurflenni ar ein gwefan i gofrestru â ni http://www.smallsteps4life.direct.gov.uk. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir wrth gofrestru i ddefnyddio ein gwefan, wrth danysgrifio i'n gwasanaeth, wrth lanlwytho gwybodaeth neu ofyn am ragor o wasanaethau. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi am wybodaeth pan fyddwch yn ein hysbysu am broblem gyda'n gwefan.
  • Mae'n bosibl y byddwn yn cadw cofnod o unrhyw ohebiaeth os ydych chi'n cysylltu â ni.
  • Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi lenwi arolygon a ddefnyddir gennym at ddibenion ymchwil, er nad oes yn rhaid i chi ymateb iddynt.
  • Manylion eich ymweliadau â'n gwefan a'r adnoddau a ddefnyddir gennych.

Cyfeiriadau IP a chwcis

Mae'n bosibl y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur gan gynnwys, lle bo ar gael, eich cyfeiriad IP, eich system weithredu a'r math o borwr sydd gennych, er mwyn gweinyddu systemau ac i adrodd gwybodaeth agregol i'n hysbysebwyr. Gwneir hyn er mwyn casglu data ystadegol am weithredoedd a phatrymau pori ein defnyddwyr, ac nid yw'n enwi unrhyw unigolion.

Am yr un rheswm, efallai y byddwn yn caffael gwybodaeth am eich defnydd cyffredinol o'r we drwy ddefnyddio ffeil cwci sy'n cael ei storio ar eich gyriant caled. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo i yriant caled eich cyfrifiadur. Maent yn ein helpu i wella ein gwefan ac i ddarparu gwasanaeth gwell a mwy personol. Maent yn ein galluogi i:

  • Amcangyfrif maint ein cynulleidfa a phatrwm eu defnydd.
  • Storio gwybodaeth am eich ffefrynnau, gan ein galluogi i addasu ein gwefan yn unol â'ch diddordebau unigol.
  • Cyflymu eich chwiliadau.
  • Adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i'n gwefan.

Gallwch wrthod derbyn cwcis drwy ddefnyddio'r opsiwn ar eich porwr sy'n eich galluogi i wrthod eu gosod. Fodd bynnag, os ydych chi'n dewis yr opsiwn hwn, mae'n bosibl na fyddwch yn gallu cael mynediad at rannau penodol o'n gwefan. Oni bai eich bod wedi addasu eich porwr i wrthod cwcis, bydd ein system yn cynhyrchu cwcis pan fyddwch yn logio i mewn i'n gwefan.

Ble'r ydym ni'n storio eich data personol?

Mae'n bosibl y bydd y data a gasglwn gennych yn cael ei drosglwyddo, a'i storio, mewn lleoliad y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ("AEE"). Efallai y bydd hefyd yn cael ei brosesu gan staff sy'n gweithredu y tu allan i'r AEE sy'n gweithio i ni neu un o'n cyflenwyr. Mae'n bosibl bod staff o'r fath wedi bod yn rhan o, ymhlith pethau eraill, y broses o weinyddu eich archeb, prosesu eich manylion talu a darparu gwasanaethau cymorth. Drwy gyflwyno eich data personol, rydych yn cytuno i'r trosglwyddiad, y storio a'r prosesu hwn. Byddwn yn cymryd yr holl gamau sy'n rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod eich data yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.

Yn yr achosion hynny lle'r ydym wedi darparu cyfrinair i chi (neu lle'r ydych chi wedi dewis un eich hun) i'ch galluogi i gael mynediad at rannau penodol o'n gwefan, rydych chi'n gyfrifol am gadw'r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â'i rannu ag unrhyw un.

Yn anffodus, nid yw'r broses o drawyrru gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch y data sy'n cael ei drawyrru i'n gwefan; felly eich dewis chi yw gwneud hynny ai peidio. Unwaith y byddwn yn derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn cadw at weithdrefnau a mesurau diogelwch llym iawn i geisio atal unrhyw un nad ydynt wedi'u hawdurdodi i gael mynediad ati.

Y defnydd a wneir o'r wybodaeth

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth sydd gennym amdanoch i:

  • Sicrhau bod cynnwys ein gwefan yn cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi a'ch cyfrifiadur.
  • Darparu gwybodaeth, cynhyrchion neu wasanaethau y gwneir cais amdanynt neu rai a fyddai, yn ein tyb ni, o ddiddordeb i chi, lle'r ydych wedi rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi at ddibenion o'r fath.
  • Gwireddu rhwymedigaethau unrhyw gontractau rhyngom ni a chi.
  • Eich galluogi i fanteisio ar nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaeth, pan fyddwch yn dewis gwneud hynny.
  • Eich hysbysu am newidiadau i'n gwasanaeth.

Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn defnyddio'ch data, neu'n caniatáu trydydd parti i ddefnyddio'ch data, i ddarparu gwybodaeth i chi am nwyddau a gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi. Efallai y byddwn ni, neu nhw, yn cysylltu â chi i drafod y rhain.

Os ydych chi'n gwsmer newydd, a lle'r ydym ni'n caniatáu i drydydd parti ddefnyddio'ch data, dim ond os ydych chi wedi rhoi caniatâd i ni (neu nhw) gysylltu â chi yn electronig y byddwn ni'n gwneud hynny.

Os nad ydych chi am i ni ddefnyddio'ch data yn y modd hwn, na phasio eich manylion i drydydd parti at ddibenion marchnata, ticiwch y blwch perthnasol ar y ffurflen a ddefnyddir gennym i gasglu eich data (y [ffurflen gofrestru]).

Datgelu eich gwybodaeth

Mae'n bosibl y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti:

Os ydym dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth cyfreithiol, neu er mwyn gorfodi neu gymhwyso ein telerau defnyddio a chytundebau eraill; neu i warchod hawliau, eiddo, neu ddiogelwch yr Asiantaeth Safonau Bwyd, neu eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth â chwmnïau a sefydliadau eraill at ddibenion atal twyll.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol at ddibenion marchnata. Byddwn fel arfer yn eich hysbysu (cyn casglu eich data) os ydym yn bwriadu gwneud hyn neu os ydym yn bwriadu datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti am yr un rhesymau. Gallwch arfer eich hawl i atal prosesu o'r fath drwy dicio blychau penodol ar y ffurflenni a ddefnyddir gennym i gasglu eich data. Gallwch hefyd arfer eich hawl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni ar ss4l@dh.gsi.gov.uk

Mae'n bosibl y bydd ein gwefan, o bryd i'w gilydd, yn cynnwys dolenni at ac o wefannau ein rhwydweithiau partner, ein hysbysebwyr a chyrff cysylltiedig. Os ydych yn dilyn dolen i unrhyw un o'r gwefannau hyn, cofiwch nodi fod ganddynt eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym ni'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd am y polisïau hyn. Cofiwch ddarllen y polisïau hyn cyn cyflwyno unrhyw ddata personol i'r gwefannau hyn.

Mynediad at wybodaeth

Mae'r Ddeddf yn rhoi i chi'r hawl i gael mynediad at unrhyw wybodaeth sy'n cael ei dal amdanoch. Gallwch arfer eich hawl i gael mynediad yn unol â'r Ddeddf. Gall unrhyw gais am fynediad olygu ffi o £10 i dalu ein costau wrth i ni ddarparu manylion yr wybodaeth sydd gennym amdanoch.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon a, lle bo'n briodol, byddwn yn eich hysbysu mewn e-bost.

Cysylltu

Croesewir cwestiynau, sylwadau a cheisiadau yn ymwneud â'r polisi preifatrwydd hwn, a dylid eu hanfon at ss4l@dh.gsi.gov.uk.

Cofrestrwch gyda ni

Dewch yn rhan o deulu Camau Bach am Oes, a mwynhau'r wefan gyflawn yn 2010!