Logiwch ar y safle i weld mwy o wybodaeth

Telerau ac Amodau

Telerau defnyddio

Mae'r dudalen hon (ynghyd â'r dogfennau y mae'n cyfeirio atynt) yn nodi'r telerau y mae'n rhaid i chi eu dilyn wrth ddefnyddio ein gwefan www.direct.gov.uk/Smallsteps4life (ein gwefan), a hynny fel ymwelydd neu fel defnyddiwr cofrestredig. Darllenwch y telerau defnyddio hyn yn ofalus cyn bwrw ati i ddefnyddio'r wefan. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn y telerau hyn ac yn cytuno i ymlynu atynt. Os nad ydych yn cytuno i'r telerau defnyddio hyn, ni ddylech ddefnyddio ein gwefan.

Gair amdanom ni

Mae www.smallsteps4life.direct.gov.uk/ yn wefan a weithredir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ("Ni").

Cael mynediad at ein gwefan

Caniateir i chi gael mynediad at ein gwefan dros dro. Cadwn yr hawl i dynnu'n ôl neu ddiwygio'r gwasanaeth a ddarparwn ar ein gwefan yn ddirybudd (gweler isod). Ni fyddwn yn atebol os na fydd ein gwefan ar gael am amser neu gyfnod penodol, am ba reswm bynnag.

Mae'n bosibl y byddwn yn cyfyngu mynediad at rai rhannau o'n gwefan, neu'r wefan gyfan, i ddefnyddwyr sydd wedi eu cofrestru gyda ni.

Wrth ddefnyddio ein gwefan, rhaid i chi gydymffurfio â darpariaethau ein polisi defnydd derbyniol.

Rydych yn gyfrifol am wneud yr holl drefniadau sydd eu hangen er mwyn i chi gael mynediad at ein gwefan. Rydych hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pawb sy'n cael mynediad at ein gwefan drwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o'r telerau hyn, ac yn cydymffurfio â nhw.

OS YDYCH DAN 18 MLWYDD OED, CEISIWCH GANIATÂD GAN RIANT NEU WARCHODWR CYN DEFNYDDIO UNRHYW UN O NODWEDDION RHYNGWEITHIOL Y WEFAN HON (E.E., LANLWYTHO UNRHYW GYNNWYS I'R WEFAN). PEIDIWCH BYTH Â DATGELU UNRHYW WYBODAETH BERSONOL AM EICH HUNAN NEU UNRHYW UN ARALL (E.E. EICH RHIF FFÔN, CYFEIRIAD CARTREF NEU GYFEIRIAD E-BOST).

Dylai rhieni a gofalwyr sy'n caniatáu i blant (wrth hynny, golygir pobl ifanc dan 18 oed) y maent yn gyfrifol amdanynt ddefnyddio gwefan Camau Bach am Oes oruchwylio eu defnydd o'r wefan. Bydd rhieni a gofalwyr yn gyfrifol am ddefnydd eu plant o'r wefan ac am ymlynu at y telerau defnyddio. Cyfrifoldeb rhieni a gofalwyr hefyd yw sicrhau bod cynnwys gwefan Camau Bach am Oes a'r Cynnwys a Grëwyd gan Ddefnyddwyr (gweler isod) y gallai'r plant ei weld ar y wefan yn addas ar gyfer y plant hynny.

Cofrestru

Er nad oes yn rhaid cofrestru er mwyn mwynhau rhai rhannau o wefan Camau Bach am Oes - mae croeso mawr i "ymwelwyr achlysurol" - mae angen cwblhau proses gofrestru syml a chael enw a chyfrinair er mwyn derbyn gwasanaethau eraill. Dim ond athrawon a gawsant eu hyfforddi yn y DU, ac sydd wedi'u cofrestru ag Education Direct a all gael mynediad at y gwasanaethau hyn.

Byddwn yn agor cyfrif i chi ar ôl i chi gofrestru ac ar ôl dilysu eich statws fel athro cymwys gydag Education Direct ("Cyfrif Gwasanaethau Gwe Camau Bach am Oes"). Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth bersonol gywir a chyflawn, a rhoi gwybod i ni pan fo angen diweddaru'r wybodaeth hon.

Mae angen i chi ddewis cyfrinair er mwyn cael mynediad at eich Cyfrif Gwasanaethau Camau Bach am Oes. Y cyfrinair yw'r allwedd sy'n datgloi eich Cyfrif Gwasanaethau Gwe Camau Bach am Oes. Ni fydd Camau Bach am Oes yn gofyn i chi ddatgelu eich cyfrinair. Rhaid i chi drin eich cyfrinair yn gyfrinachol a chytuno i beidio â'i ddatgelu i ddefnyddwyr eraill. Mae eich Cyfrif Gwasanaethau Gwe Camau Bach am Oes dan fygythiad os ydych yn caniatáu i rywun ei ddefnyddio yn amhriodol.

Rydych yn cytuno i ryddarbed a chadw mewn rhyddarbed yr Asiantaeth Safonau Bwyd am unrhyw ddefnydd amhriodol neu anghyfreithlon o'ch Cyfrif Gwasanaeth Gwe Camau Bach am Oes, gan gynnwys defnydd anghyfreithlon neu amhriodol gan drydydd parti sydd wedi defnyddio'ch cyfrinair i gael mynediad at eich Cyfrif Gwasanaethau Gwe Camau Bach am Oes.

Mae gennym hawl i analluogi unrhyw god adnabod neu gyfrinair, p'un a yw wedi'i ddewis gennych chi neu wedi'i bennu gennym ni, a hynny ar unrhyw adeg os ydym o'r farn eich bod wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r telerau defnyddio hyn.

Lanlwytho deunyddiau i'n gwefan

Caniateir i chi lanlwytho testun, negeseuon, [delweddau, awdio a fideo,] a/neu wybodaeth arall ("Cynnwys a Grëwyd gan Ddefnyddwyr ") i ardaloedd penodol o wefan Camau Bach am Oes y bydd modd i bobl eraill eu gweld. Ni chewch lwytho Cynnwys a Grëwyd gan Ddefnyddwyr sy'n torri'r telerau defnyddio, y polisi defnydd derbyniol neu unrhyw delerau eraill sy'n rheoli defnydd o wefan Camau Bach am Oes. Nid ydym yn hawlio perchnogaeth o unrhyw Gynnwys a Grëwyd gan Ddefnyddwyr a gaiff ei lanlwytho. Fodd bynnag, drwy gyflwyno Cynnwys a Grëwyd gan Ddefnyddwyr i ardaloedd cyhoeddus gwefan Camau Bach am Oes, rydych yn rhoi i ni a'n cysylltiadau drwydded ddi-freindal, di-gyfyngedig, i ddefnyddio, copïo, arddangos, perfformio, dosbarthu, addasu a hyrwyddo'r Cynnwys a Grëwyd gan Ddefnyddwyr mewn unrhyw gyfrwng, ac rydych yn cytuno y gallwn is-drwyddedu'r Cynnwys a Grëwyd gan Ddefnyddwyr i drydydd partïon.

Pa bryd bynnag y byddwch yn defnyddio nodwedd sy'n caniatáu i chi lanlwytho deunyddiau i'n gwefan, neu i gysylltu â defnyddwyr eraill ein gwefan, rhaid i chi gydymffurfio â'r safonau cynnwys a nodir yn ein polisi defnydd derbyniol. Rydych yn gwarantu bod unrhyw gyfraniad o'r fath yn cydymffurfio â'r safonau hynny, ac rydych yn ein rhyddarbed os bydd y warant honno'n cael ei thorri.

Os byddwch yn lanlwytho unrhyw ddeunyddiau i'n gwefan, ni chânt eu hystyried yn gyfrinachol nac yn berchnogol, ac mae gennym hawl i ddefnyddio, copïo, dosbarthu a datgelu'r deunyddiau i drydydd partïon at unrhyw ddiben. Mae gennym hefyd hawl i ddatgelu pwy ydych chi i unrhyw drydydd parti sy'n hawlio bod deunydd yr ydych wedi'i bostio neu'i lanlwytho i'n gwefan yn torri eu hawliau eiddo deallusol, neu eu hawl i breifatrwydd.

Ni fyddwn yn gyfrifol, nac yn atebol i unrhyw drydydd parti, am gynnwys neu gywirdeb unrhyw ddeunyddiau yr ydych chi neu ddefnyddwyr eraill y wefan yn eu postio.

Mae gennym hawl i wrthod cyhoeddi unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei bostio neu dynnu unrhyw ddeunydd oddi ar y wefan os ydym o'r farn nad yw'n cydymffurfio â'r telerau defnyddio hyn, y safonau cynnwys a nodir yn ein polisi defnydd derbyniol neu unrhyw ofynion eraill sy'n ymwneud â phostio cynnwys o'r fath.

Dibynadwyedd yr wybodaeth a gaiff ei phostio

Ni fwriedir i'r sylwadau a'r deunyddiau eraill a gaiff eu postio ar ein gwefan gael eu hystyried yn gyngor y dylech ddibynnu arno. Er ein bod yn gwneud ein gorau glas i ddarparu gwybodaeth gywir a chyfredol ar y wefan, fe'i darperir er gwybodaeth yn unig, heb unrhyw warant, sicrwydd, cynrychiolaeth neu arnodiad o unrhyw fath o ran ei chywirdeb neu gyflawnrwydd neu arall (boed wedi'i ddatgan neu wedi'i awgrymu), ac nid yw gyfystyr â chyngor proffesiynol neu gyfreithiol. Gwrthodwn felly unrhyw atebolrwydd a chyfrifoldeb sy'n deillio o ddibyniaeth a roddir ar ddeunyddiau o'r fath gan unrhyw un sy'n ymweld â'n gwefan, neu unrhyw un sydd wedi'i lywio gan ei chynnwys.

Cau'r wefan

Gallwn ddileu gwefan Camau Bach am Oes, neu ei chau dros dro, a hynny ar unrhyw adeg, heb roi rheswm na rhybudd.

Bydd eich hawl i ddefnyddio gwefan Camau Bach am Oes a'ch enw defnyddiwr yn dod i ben pan gaiff eich cyfrif ei ddiddymu, ac ni fydd unrhyw ddata yr ydych wedi'i storio ar wefan Camau Bach am Oes ar gael i chi bellach. Mae'n hanfodol felly eich bod yn cadw copïau archif o unrhyw ddata sydd o werth i chi.

Os hoffech gau eich Cyfrif Gwasanaethau Gwe Camau Bach am Oes, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw rhoi'r gorau i'w ddefnyddio, neu gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at ss4l@dh.gsi.gov.uk o'ch cyfeiriad e-bost cofrestredig.

Mae ein gwefan yn newid yn rheolaidd

Ein nod yw diweddaru'r wefan yn rheolaidd, ac mae'n bosibl y byddwn yn newid y cynnwys ar unrhyw adeg. Mae'n bosibl y byddwn, os bydd angen, yn gwahardd mynediad at ein gwefan dros dro, neu ei chau am gyfnod penagored. Mae'n bosibl na fydd yr holl wybodaeth ar ein gwefan yn gwbl gyfredol bob amser, ac nid oes unrhyw orfodaeth arnom i ddiweddaru deunydd o'r fath.

Ein hatebolrwydd

Caiff y deunydd ar ein gwefan ei ddarparu heb warant, amodau na sicrwydd o'i gywirdeb. I'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, rydym drwy hyn yn eithrio'n benodol:

  1. yr holl amodau, gwarantau a thelerau eraill a allai gael eu hawgrymu fel arall gan statud, y gyfraith gyffredin neu gyfraith ecwiti; ac
  2. unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu niwed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achosir i unrhyw ddefnyddiwr mewn cysylltiad â'n gwefan neu mewn cysylltiad â defnyddio, methu â defnyddio, neu ganlyniadau defnyddio ein gwefan, unrhyw wefannau sy'n gysylltiedig â hi neu unrhyw ddeunyddiau a gaiff eu postio arni, ac
  3. unrhyw golled neu niwed arall o unrhyw fath, sut fodd bynnag y mae'n digwydd, boed drwy'r gyfraith gamweddau (gan gynnwys esgeuluster), torri contract neu fel arall, hyd yn oed os oedd modd ei ragweld.

Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy'n deillio o'n hesgeulustod ni, nac ar ein hatebolrwydd ni am gamliwio twyllodrus neu gamliwio ar fater sylfaenol nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na'i gyfyngu o dan gyfraith berthnasol.

Indemniad

Rydych yn cytuno i amddiffyn a chadw mewn rhyddarbed Camau Bach am Oes a'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn erbyn yr holl atebolrwydd, hawliadau a chostau, gan gynnwys ffioedd cyfreithiol rhesymol sy'n deillio o dorri hawliau eiddo deallusol trydydd parti neu hawliau eraill, o ganlyniad i dorri'r telerau defnyddio hyn, yr ydych yn gyfrifol amdanynt. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cadw'r hawl, ar ei thraul ei hun, i gymryd unig reolaeth ac amddiffyniad o unrhyw fater, yn ddarostyngedig i indemniad gennych chi. Yn yr achos hwnnw, ni fydd unrhyw rwymedigaeth bellach arnoch i indemnio Camau Bach am Oes na'r Asiantaeth Safonau Bwyd mewn perthynas â'r mater hwnnw.

Gwybodaeth amdanoch chi a'ch ymweliadau â'r wefan

Rydym yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi yn unol â'n polisi preifatrwydd. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i broses o'r fath ac rydych yn gwarantu fod yr holl ddata a ddarperir gennych yn gywir.

Feirysau, hacio a throseddau eraill

Rhaid i chi beidio â mynd ati'n fwriadol i gamddefnyddio ein gwefan drwy gyflwyno feirysau, trojans, mwydon, bomiau amser neu ddeunyddiau eraill sy'n faleisus neu'n niweidiol yn dechnolegol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod at ein gwefan, y gweinyddwr y mae'r wefan wedi'i storio arno, neu unrhyw weinyddwr, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â'n gwefan. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein gwefan drwy gyfrwng ymosodiad gwrthod gwasanaeth na thrwy gyfrwng ymosodiad gwrthod gwasanaeth gwasgaredig.

Byddai torri'r ddarpariaeth hon gyfystyr â chyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol sy'n gorfodi'r gyfraith a byddwn yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny drwy ddatgelu wrthynt pwy ydych chi. Mewn achos o'r fath, rhoddir terfyn ar eich hawl i ddefnyddio'r wefan ar unwaith.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu niwed a achosir gan ymosodiad gwrthod gwasanaeth gwasgaredig, feirysau neu ddeunyddiau eraill sy'n niweidiol yn dechnolegol a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu unrhyw ddeunyddiau perchnogol eraill o ganlyniad i ddefnyddio'r wefan hon neu lawrlwytho unrhyw ddeunyddiau sydd wedi'u postio arni, neu unrhyw wefan sy'n gysylltiedig â hi.

Dolenni i'n gwefan

Cewch greu dolen i'n hafan, cyhyd â'ch bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n deg ac yn gyfreithlon ac nad ydyw'n pardduo ein henw da nac yn manteisio arno, ond rhaid i chi beidio â chreu dolen mewn ffordd sy'n awgrymu unrhyw ffurf o gysylltiad, cymeradwyaeth neu arnodiad ar ein rhan ni, lle nad oes cysylltiad, cymeradwyaeth nac arnodiad o'r fath yn bodoli.

Rhaid i chi beidio â chreu dolen o unrhyw wefan nad ydych chi'n berchen arni.

Ni cheir fframio ein gwefan ar unrhyw wefan arall, ac ni chewch greu dolen i unrhyw ran o'n gwefan ac eithrio'r hafan. Cadwn yr hawl i dynnu'n ôl caniatâd i gysylltu â'r wefan yn ddirybudd. Rhaid i'r wefan yr ydych yn creu'r ddolen ohoni gydymffurfio ym mhob ffordd â'r safonau cynnwys a nodir yn ein polisi defnydd derbyniol.

Os hoffech ddefnyddio unrhyw ddeunydd oddi ar ein gwefan ar wahân i'r hyn a nodir uchod, a fyddech cystal ag anfon y cais at ss4l@dh.gsi.gov.uk.

Cynnwys gan drydydd parti

Lle bo dolenni ar ein gwefan i wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, fe'u darperir er gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys nac adnoddau'r gwefannau hynny, ac ni dderbyniwn unrhyw gyfrifoldeb drostynt neu unrhyw golled neu niwed a allai deillio o'ch defnydd ohonynt.

Awdurdodaeth a chyfraith berthnasol

Llysoedd Lloegr fydd ag unig awdurdodaeth dros unrhyw hawliad sy'n deillio o ymweliad â'n gwefan, neu'n gysylltiedig â hi, er ein bod yn cadw'r hawl i ddwyn achos llys yn eich erbyn am dorri'r amodau hyn yn eich gwlad breswyl neu unrhyw wlad berthnasol arall.

Caiff y telerau defnyddio hyn ac unrhyw anghydfod neu hawliad sy'n deillio ohonynt neu'n gysylltiedig â hwy neu'u cynnwys neu'u ffurf (gan gynnwys anghydfod neu hawliadau anghytundebol) eu rheoli gan, a'u dehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

Amrywiadau

Mae'n bosibl y byddwn yn diwygio'r telerau defnyddio hyn ar unrhyw adeg drwy ddiwygio'r dudalen hon. Disgwylir i chi ddarllen y dudalen hon o dro i dro er mwyn gweld unrhyw newidiadau a wnaed gennym, gan eu bod, o'ch rhan chi, yn rhwymedigol. Mae'n bosibl y gallai rhai o'r darpariaethau yn y telerau defnyddio hyn gael eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn mannau eraill ar ein gwefan.

Eich sylwadau

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu bryderon am ddeunyddiau sy'n ymddangos ar ein gwefan, cysylltwch â ss4l@dh.gsi.gov.uk.

Diolch am ymweld â'n gwefan.

Cofrestrwch gyda ni

Dewch yn rhan o deulu Camau Bach am Oes, a mwynhau'r wefan gyflawn yn 2010!